P-04-439
: Diogelu coed hynafol a choed treftadaeth Cymru ymhellach
Geiriad
y ddeiseb:
Rydym
o'r farn bod coed hynafol a choed treftadaeth Cymru yn rhan hanfodol ac unigryw
o amgylchedd a threftadaeth y genedl.
Rydym
yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i'w diogelu
ymhellach, er enghraifft, drwy:
- roi
dyletswydd ar yr Un Corff Amgylcheddol newydd i hyrwyddo cadwraeth coed
o'r fath drwy roi cyngor a chymorth i'w perchenogion, gan gynnwys cymorth
grant lle bo'n angenrheidiol;
- diwygio'r
ddeddfwriaeth Gorchymyn Cadw Coed bresennol i'w gwneud yn addas i'r diben
wrth ddiogelu coed hynafol a threftadaeth, a hynny yn unol â chynigion
Coed Cadw (the Woodland Trust);
- cynnwys
cronfa ddata o'r coed a gofnodwyd ac a nodwyd yn ddilys gan y Prosiect
Helfa Coed Hynafol fel casgliad o ddata i'w gadw gan unrhyw olynydd i
Gynllun Gofodol Cymru, gan gydnabod y rhain fel 'Coed o Ddiddordeb
Arbennig' a rhoi'r wybodaeth hon i awdurdodau cynllunio lleol fel y gellir
ei chynnwys yn eu systemau gwybodaeth ddaearyddol, er gwybodaeth.
Prif
ddeisebydd: Coed
Cadw Cymru
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 4 Rhagfyr 2012
Nifer y llofnodion:
5,320